Hyfforddiant Peiriant Diffibriliwr
yn
NEUADD GYMUNED TALSARNAU
Nos Iau, 7fed Chwefror 2019
am 7.30
Croeso cynnes i bawb
Bellach mae 4 peiriant diffib wedi eu lleoli yn yr ardal. Mae un wedi ei leoli ar wal garej R J Williams a'i Feibion yn y pentref. Mae'r ail yn hen giosg teliffon wrth stad Cilfor yn Llandecwyn. Mae un wedi ei osod yn yr hen giosg yn Yr Ynys a'r llall ar wal garej gyferbyn a 4 Maes Gwndwn yn ardal Soar.
Diolch cynnes iawn i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw fodd - yn ariannol, wrth glirio'r safleoedd, gosod y peiriannau ac i Wasg Eryri am eu haelioni yn paratoi, argraffu a chyfrannu'r defnyddiau ar gyfer amlygu'r safleoedd ciosg - a hynny i gyd yn rhad ac am ddim. Maent o'r herwydd yn glir a hawdd eu gweld.
Deffibriliadur (Defibrillator)
Mae mwy a mwy o beiriannau deffibriliadur (defibrillator) yn cael eu gosod mewn mannau cyhoeddus gan eu bod yn gallu achub bywydau. Mae nhw’n beiriannau hawdd i’w defnyddio ac nid yw hyfforddiant yn angenrheidiol. Mewn ardal wledig gellid dweud bod y rheswm dros eu cael gymaint yn fwy.
Cytunwyd ym Mhwyllgor Rheoli Neuadd Gymuned Talsarnau ar 29ain Chwefror y byddai cael diffibiliadur (defibrillator) a’i leoli mewn safle hwylus o fewn y pentref yn rhywbeth gwerth ei wneud.
Bwriedir felly gychwyn apêl i godi arian tuag at y gronfa hon gan anelu i godi £2000. Byddai’n braf meddwl y gallai gwahanol gymdeithasau, clybiau a chapeli o fewn yr ardal gynnal gweithgareddau i gyfrannu tuag at y gronfa. Byddai rhwydd hynt i unigolion hefyd, wrth gwrs i roi cyfraniadau unigol.
Efallai na fydd angen defnyddio’r peiriant hwn o fewn ein cymuned, ond pe byddai yn achub ond un bywyd, byddai’r ymdrech yn un werth ei gwneud.
Fe ddaw mwy o wybodaeth maes o law. Rhif cyswllt ar hyn o bryd – Mai Jones 01766 770757
Grant Diweddaru Offer Technolegol Neuadd Gymuned Talsarnau
Braf yw cael cyhoeddi fod Neuadd Gymuned Talsarnau wedi derbyn grant o £4,850 gan Cronfa Loteri Fawr – Arian i Bawb tuag at ddiweddaru offer technolegol yn y neuadd.
Prynwyd system sain fydd yn gaffaeliad at ddigwyddiadau megis cyflwyniadau, cyngherddau, siaradwyr, digwyddiadau plant ysgol ac ati.
Llwyddwyd hefyd i gael offer er mwyn recordio digwyddiadau o fewn yr ardal ar ffurf sain a llun yn cynnwys camerau fideo a chyfrifiaduron a bydd modd golygu’r gwaith gyda meddalwedd arbenigol at y gwaith.
Dymuna Pwyllgor Rheoli’r Neuadd gydnabod a diolch yn gynnes am y grant hwn fydd yn galluogi pobl i fenthyca’r offer o fewn y gymuned i recordio digwyddiadau o bob math er mwyn sicrhau a diogelu ein hanes a’n diwylliant.
Cyngerdd Meibion Prysor
Wedi mwynhau noson yn Y Neuadd Gymuned neithiwr - Meibion Prysor oedd yn diddori dan arweiniad Iwan Morgan a Iona Griffiths yn cyfeilio. Lleisiau arbennig a rhaglen amrywiol. Braf gweld nifer o hogiau ifanc yn aelodau o'r cor a braf hefyd oedd gweld Eifion Williams Cadeirydd Pwyllgor y Neuadd wedi mendio'n ddigon da i fod yn bresennol ar ol ei law driniaeth.
Owain Tudur Lewis a Caryl Hughes ar ddiwrnod eu priodas, Hydref 17eg 2015.
Cynhaliwyd gwasanaeth yn y Capel Newydd, Talsarnau a gwledd a pharti yn Aberdunant. Cafodd pawb, yn deulu a ffrindiau ddiwrnod i'w gofio.
Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i'r ddau yn eu cartref newydd yn Y Faenol, Penrhyndeudraeth.