Medi 2020

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD TU ALLAN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH 21.9.20Cafwyd gair o groeso gan y Cadeirydd cyn cychwyn cyfafod swyddogol  y Cyngor a datganodd ei bod yn braf cael cynnal cyfarfod unwaith yn rhagor er ein bod yn gorfod ei gynnal y tu allan i’r neuadd.YMDDIHEURIADAU
Cyng. John Richards (Is-Gadeirydd), Margaret Roberts a’r Cyng. Freya Bentham (Cyngor Gwynedd).
 
 PRESENNOL
Cyng. Eifion Williams (Cadeirydd), John Richards (Is-Gadeirydd), Ann Jones,  Dewi Tudur Lewis,  Eluned Williams, Gwenda Griffith, Owen Lloyd Roberts.
 
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 20ed 2020 fel rhai cywir.MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £4,254.36 wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd, a bod hyn yn £8,116.35 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Lloches Bws Glan y Wern
Datganwyd siom bod difrod wedi cael ei wneud i’r lloches bws uchod yn ystod y nos ddechrau mis diwethaf a bod gyrrwr y car oedd yn gyfrifol wedi gyrru i ffwrdd heb gysylltu a neb. Adroddodd y Clerc bod y Cyng. John Richards wedi datgan wrthi ei fod yn mynd i geisio trwsio y lloches ei hun i gychwyn cyn cysylltu gyda’r cwmni insiwrant.Camerau CCTV
Cytunwyd i adael y mater hwn  tan cyfarfod nesa y Cyngor.MATERION CYNGOR GWYNEDD
Oherwydd bod y Cyng. Freya Bentham  ar gyfnod mamolaeth nid oedd adroddiad ar gael.CEISIADAU CYNLLUNIO
Caniatâd Adeilad Rhestredig i newid ffenestri fframiau dur gwydr sengl gyda ffenestri derw gwydr dwbl pwrpasol W11, W12, W14,W15,W16,W18 llawr daear sef ystafell fwyta, cegin ar dderbynfa yn ogystal a W45,W46,W47 lefel llawr cyntaf ystafell Las a W66 ar y nenlawr - Glyn Cywarch, Talsarnau (NP5/77/LB59F)
 Cefnogi y cais hwn.Gosod uned ‘Biodisc Kingspan’ ar gyfer trinaeth carthffosiaeth teuluaidd gan gynnwys y gwaith tyllu, draenio ar holl waith trydanol i’w gysylltu-  Glyn Cywarch, Talsarnau (NP5/77/LB59G)
 Cefnogi y cais hwn.Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod uned ‘Biodisc Kingspan’ teuleuol trin carthion  gan gynnwys yr holl waith draenio tyllu a chysyltiadau trydanol ac wedi ei leoli yng nghefn adeiladau swyddfa’r Ystad sydd wedi ei lleoli i’r Gogledd Orllwein o’r tŷ - Glyn Cywarch, Talsarnau (NP5/77/LB59H)
 Cefnogi y cais hwn.ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £36,245.13 yn y cyfrif rhedegol, £4,158.67 yn y cyfrif cadw a £100.00 yng nhgyfrif y Cadeirydd. Adroddodd y Trysorydd er bod copiau o gyfrifon y Cyngor wedi cael eu hanfon at bob Aelod dechrau mis Ebrill, nid oeddynt wedi cael eu cymeradwy  am y flwyddyn ariannol 2019/20 ag hefyd oedd angen I ardystio y ffurflen
flynyddol er mwyn gallu anfon y dogfennau priodol ymlaen i'r Archwiliwr Allanol. Adroddod y Trysorydd ymhellach oherwydd y feirws bod y dyddiad penodi ar gyfer arfer hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 wedi cael ei symund eleni, ar dyddiad newydd yw rhwng y 1af ar 28ain o Fedi 2020. O Fedi’r 29ain hyd nes bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau fe fydd gan etholwyr y Gymuned yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon. Cytunodd pob Aelod a oedd yn bresennol i gymeradwyo y cyfrifon ag hefyd ardystio y ffurflen flynyddol ag i’r Cadeirydd a’r Clerc/Trysorydd arwyddo y cyfrifon, y ffurflen flynyddol ar llyfr cyfrifon ar ran y Cyngor.GOHEBIAETH
Mr. Tecwyn Williams
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ar ran aelodau Eglwys Llanfihangel y Traethau yn gofyn am farn yr Aelodau ar rai eitemau sydd angen sylw tu allan i’r Eglwys ac a grybwyllwyd gan Mr. Rory Wilson, Pensaer yr Eglwys yng Nghymru. Yr eitemau yw tynnu rhwd oddi ar y giat fynediad haearn ai’i hail beintio oherwydd yr Eglwys sydd yn gyfrifol amdani gan mai rhodd i’r Eglwys oedd hon, ag hefyd mae angen atgyweirio rhan fechan o’r llwybr yn ymyl y fynedfa sydd wedi ei ddifrodi gan wraidd un o’r coed ywen. Hefyd eisiau cymeryd y cyfle hwn ar rhan aelodau yr Eglwys i gymeradwyo y gwaith arbennig sydd yn cael ei wneud gan Mr. Meirion Griffith i gadw y fynwent yn daclus a Mr. Cai Slater am drefnu yn rheolaidd  i symud y gwastraff o’r Eglwys a’r fynwent. Cytunwyd i gyfarfod rhai o Aelodau yr Eglwys ar y safle.Mrs Margaret Roberts
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn datgan pryder am gyflwr y llwybr troed sy'n arwain o Cilfor at Bont Briwet ag yn datgan bod eithin a drain wedi tyfu hyd at ganol y llwybr sydd, yn cael ei rannu rhwng beicwyr a cherddwyr.  Hefyd yn datgan ei bod bron wedi cael sawl damwain wrth orfod osgoi'r drain a mynd i ganol y llwybr pan mae beic yn dwad ar wib. Yn tteimlo y dylai'r llwybr yma gael sylw brys gan fod bobl yn ei ddefnyddio i ddal y tren. Cytunwyd gyda’r hyn oedd yn cael ei ddweud ag anfon yr e-bost ymlaen i Gyngor Gwynedd.Ms  Denise Meldrum
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn datgan pryder am giat sydd angen sylw ger grid gwartheg sydd yn mynd i fyny o Eisingrug o gyfeiriad Moel Geifr ag yn dweud bod y giat dan sylw gyda wiren yn ei dal sydd wedi torri ag wedi rhydu . Hefyd yn datgan ei bod wedi cael ateg  gan yr Adran Briffyrdd sydd yn honi mae cyfrifoldeb y tir feddianwr yw y giat am ei bod ar dir preifat. Cytunwyd gyda hyn ag anfon at yr Adran Priffyrdd yn tynnu eu sylw ei fod yn dweud o dan Deddf Priffyrdd 1980 Adran 82 a 90  ei fod yn datgan mae yr Adran Priffyrdd sydd yn gyfrifol am y giat ar grid gwartheg ag ar ba sail maen’t  yn gallu dweud yn wahanol.UNRHYW FATER  ARALL
Cafwyd  wybod bod fflag y Ddraig Goch wedi mynd o ar y polyn fflag yn Gardd y Rhiw yn ystod y gwyntoedd a gafwyd yn ddiweddar. Cytunwyd i archebu fflag newydd.
Datganodd y Cyng. Owen Lloyd Roberts oherwydd ei iechyd, yn anffodus ni fydd yn gallu cynrychioli’r Cyngor mewn cyfarfodydd wedi nos o hyn ymlaen. Derbyniwyd y rheswm hyn a diolchodd y Cadeirydd iddo am gynrychioli y Cyngor mewn cyfarfodydd tu allan.
Datganwyd pryder bod ceir yn parcio ddwy ochor i’r ffordd ar y rhiw ger groesffordd Capel y Graig a cytunwyd gofyn a fyddai yn bosib gosod rhwystr ar yr ochor dde i’r ffordd i atal hyn rhag digwydd.
Cytunwyd yn unfrydol bod y Clerc yn anfon at Liz Saville Roberts A.S., a Dafydd Elis Thomas A.C., yn gofyn a fyddai’n bosib iddynt wneud yn siwr pan mae cloi i lawr yn digwydd yn  Lloegr bod pobl o’r ardaloedd hynny ddim yn gallu teithio dros y ffin i Gymru.