Gorffennaf 2019

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH 15.07.19YMDDIHEURIADAU
Cyng. John Richards (Is-Gadeirydd), Dewi Tudur Lewis,  Geraint Williams, Margaret Roberts.PRESENNOL
Cyng. Eifion Williams (Cadeirydd), Ffion Williams, Eluned Williams, Gwenda Griffith, Owen Lloyd Roberts, Ann Jones,  Freya Bentham (Cyngor Gwynedd).Estynodd y Cadeirydd gydymdeimlad y Cyngor a theulu y diweddar Mr. Idris Williams, Tanforhesgan.
Ar ran y Cyngor dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i Mrs Gwyneth Richards, gwraig y Cyng. John Richards a oedd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar.
Ar ran y Cyngor dymunodd y Cadeirydd wellhad buan i Mr. Steve Henshaw, brawd yng nghyfraith y Cyng. Ffion Williams a oedd wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar.DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mai 20ed 2019 fel rhai cywir.MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £5,985.21 wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £10,577.55 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. ‘Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod Cyngor wedi clustnodi £10,000 ar gyfer datblygu maes parcio Cilfor a nid oedd hwn wedi cael ei wario eto, ddim wedi rhoi dim cyfryniadau ariannol (wedi clustnodi £1,500), nid oedd costau wedi bod gyda’r fynwent  (£501 wedi ei glustnodi).Rheolau Ariannol a Rheolau Sefydlog y Cyngor
Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon copi o rhai newydd o’r uchod i bob Aelod gyda’r cofnodion er mwyn iddynt gael amser i’w darllen. Cytunwyd i fabwysiadu y rheolau sefydlog ag rheolau ariannol newydd hyn.Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy
Oherwydd absenoldeb y Cyng. John Richards nid oedd posib cael adroddiad o gyfarfod y Bwrdd uchod a oedd wedi ei gynnal ar yr 20ed o Fehefin.Cyfarfod y Mynwentydd – 17.6.19
Adroddwyd bod y Cyngor wedi cynnal y cyfarfod blynyddol o fynd o amgylch y mynwentydd ar yr 17eg o Fehefin a bod pawb oedd yn gallu wedi cyfarfod yn gyntaf yn mynwent Llanfihangel y Traethau am 7.00 o’r gloch a wedyn mynd draw am Landecwyn ag hefyd ymweld ar cae chwarae lawr ffordd stesion. Cytunwyd bod cofnodion o’r cyfarfod hwn yn gywir. Hefyd cytunwyd gofyn i’r Cyng. Dewi Tudur Lewis a fyddai yn bosib iddo drefnu i Mr. Chris Rayner gael mwy o rwber i’w osod o dan yr offer chwarae ag hefyd cytunwyd i archebu polyn fflag a fflag y Ddraig Goch er mwyn ei osod yn Gardd y Rhiw.MATERION CYNGOR GWYNEDD
Adroddodd y Cyng. Freya Bentham bod y giat mochyn sydd i’w gosod ar y llwybr cyhoeddus ger Bont Briwet yn mynd i gael ei gosod yn y mis nesa a cytunwyd ei bod yn gofyn i Liz Haynes am fwy o wybodaeth ynglyn a chyfarfod a gafodd ei gynnal ger Bont Briwet gyda’r ffarmwr lleol, bod y llygid cathod ar y ffordd ger Tregwylan yn mynd i gael eu gosod yn fuan ag hefyd ei bod wedi derbyn gwybodaeth ynglyn a faint o ail gartrefi sydd yn yr ardal a chafwyd copi                         o’r ffigyrau hyn ganddi. Hefyd bod Cyngor Gwynedd wedi dweud mae nhw sydd yn berchen ar y safle tu allan i’r cyn Capel Soar a bod eisiau iddynt gyfaddef mae darn o’r ffordd ydi’r lle. Bydd y llinellau melyn yn cael eu gosod yn y mis i chwech wythnos nesa, hefyd ei bod wedi cael ateb i’r e-bost a anfonodd yn mis Mawrth ynglyn ar maes parcio lawr ffordd stesion a bod cyfarfod yn cael ei gynnal yna ar yr 17eg o’r mis hwn.CEISIADAU CYNLLUNIO
Gosod ffenestri dormer ar y drychiadau blaen a cefn – Cae Bran, Barcdy, Talsarnau (NP5/77/4N)
Cefnogi y cais hwn.Newid defnydd rhan o’r stabl/ysgubor wair yn siop adwerthu Dosbarth A1 – Bryn Derw, Talsarnau (NP5/77/265A)
Cefnogi y cais hwn.ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £19,423.03 yn y cyfrif rhedegol, £4,150.39 yn y cyfrif cadw a £100.00 yng nhgyfrif y Cadeirydd. GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn ateb gan yr uchod ynglyn a materion a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ag yn datgan  bod yr Arolygwr Priffyrdd wedi asesu’r sefyllfa gyda’r coed ar ochr y ffordd wrth Garth a gyferbyn Bron Wylfa ag ei fod ddim yn gweld dim yn beryglus ar hyn o bryd ond bydd yn anfon at y tirfeddianwyr pan fydd y tymor nythu drosodd. Mae’r grid gwartheg ger Ty’n Ffrwd, Llandecwyn yn breifat ag felly ni fyddant yn gwneud unrhyw waith yno. Mae cais y Cyngor am CCTV yn Llandecwyn a Llanelltyd wedi ei anfon i Gaernarfon gan ofyn iddynt ymateb yn uniongyrchol ag hefyd y cais i greu llwybr o’r pentref am gyfeiriad Glan y Wern. Bydd yr Arolygwr Llwybrau Cyhoeddus yn archwilio y safle yn y dyfodol agos lle mae y postyn ger llwybr coch.Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y cyfarfod blynyddol rhwng y Parc Cenedlaethol ar Cynghorau yn cael eu cynnal ar y 30ain o Fedi yn Plas y Brenin, Capel Curig, 1af o Hydref yn Plas Tan y Bwlch ag ar y 3ydd o Hydref yn Neuadd Dyfi, Aberdyfi a bod bob cyfarfod yn cychwyn am 6.30 o’r gloch. Datganwyd bydd mwy o fanylion yn cael eu anfon yn nes at y dyddiad.Mr. P. Mccrystal
Wedi derbyn ateb gan Mr. Paul Mccrystal, Gwelfor ynglyn ar darn tir ger Rhiw Derwydd ag yn datgan bod gan y tir ddim  defnydd priodol na gwerth heblaw am fod yn ofod gardd. Hefyd yn gofyn pwy sydd yn mynd i edrych ar ol y darn tir ar ol i’r Cyngor osod main yna. Un awgrymiad y mae yn ei wneud yw i’r Cyngor  drosglwyddo y tir i Gwelfor a gall cyfamod ei roi ar y tir gyda disgwyliad y Cyngor, ag felly byddai y Cyngor yn cael sicrhad bod y darn tir yn cael ei gadw yn daclus. Mae yn sicrhau y Cyngor nai fwriad yw plannu ychydig o blanhigion er mwyn creu gardd gofal isel yr un fath a’i gymdogion a fyddai o gaffaeliad i’r pentref. Cytunwyd i beidio a tynnu allan prydles a datgan hyn wrth Mr. Mccrystal ag hefyd cytunwyd i osod y fainc yna a gofyn i Mr. Meirion Griffith edrych ar ol y safle.UNRHYW FATER  ARALL
Cafwyd wybod bod yr arwydd wrth ddod i mewn i’r pentref o ochor Llandecwyn sydd yn datgan bod yna groesffordd gerllaw angen ei adnewyddu.
Cafwyd canmolieth i’r gwaith da sydd wedi cael ei wneud wrth dorri gwair y llwybrau cyhoeddus ar mynwentydd.
Eisiau gofyn i’r Adran Priffyrdd a fyddai yn bosib symud yr arwydd 30m.y.a yn Ynys nes am Glan y Wern.
Eisiau gofyn i’r Adran Priffyrdd a fyddai’n yn bosib gosod cylchfan yn Glan y Wern oherwydd ei bod yn beryg i droi i’r dde yn y groesffordd am bod mwy o geir yn nawr yn cario ymlaen ar yr hen ffordd am Harlech.