Mawrth 2019

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH 18.3.19YMDDIHEURIADAU
Cyng. Geraint Williams a’r Cyng. Freya Bentham (Cyngor Gwynedd).PRESENNOL
Cyng. Eluned Williams(Cadeirydd), John Richards, Ffion Williams, Eifion Williams, Gwenda Griffith, Owen Lloyd Roberts, Ann Jones,  Dewi Tudur Lewis,  Margaret Roberts.Ar ran y Cyngor dymunodd y Cyng. Eifion Williams wellhad buan i’r Cadeirydd a oedd wedi bod dan anhwylder yn ddiweddar.
 
DATGAN BUDDIANT
Datganodd y Cyng. Eluned Williams bod angen iddi ddatgan buddiant yng nghais cynllunio Eglwys Christ, Talsarnau ond cytunwyd gan yr Aelodau yn unfrydol bod ddim angen iddi wneud hyn am bod ganddi ddim cysylltiad gyda’r ymgeisydd.COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 21ain 2019 fel rhai cywir.MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £13,012.39 wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol  newydd a bod hyn yn £18,822.51 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. ‘Roedd hyn oherwydd bod Cyngor wedi clustnodi £10,000 ar gyfer datblygu maes parcio Cilfor a nid oedd hwn wedi cael ei wario eto, ‘roedd ddim gwariant wedi bod hefo cynnal a chadw y cae chwarae (wedi clustnodi £4,583 hyd yma), ddim wedi rhoi gymaint o gyfryniadau ariannol (wedi clustnodi £1,500 ar gwariant yn £250) ag hefyd ni  fydd y costau o dorri gwair y llwybrau cyhoeddus gymaint a beth oedd wedi ei glustnodi (wedi clustnodi £1,200 ar gwariant yn £862), na’r gost o dorri gwair y mynwentydd (wedi clustnodi £1,800 ar gwariant yn £1,710.50), nid oedd costau eraill y fynwent  gymaint (£1,833 wedi ei glustnodi hyd yma ar gwariant hyd yma wedi bod yn £1,440.) Maes Parcio Cilfor
Adroddodd y Cyng. John Richards bod ddim byd pellach i’w adrodd ynglyn ar mater uchod ers y cyfarfod diwethaf.Agor Tenderau Torri Gwair
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn un tender un gan Mr. Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau am £13.00 yr awr i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a un am £13.00 yr awr i dorri gwair mynwentydd Llanfihangel y Traethau a Llandecwyn a pris o £300 y flwyddyn i gynnal a chadw Gardd y Rhiw. Cytunwyd i dderbyn y tender hon.Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy
Adroddwyd bod ddim cyfarfod o’r uchod wedi cael ei gynnal ers cyfarfod diwethaf y Cyngor a bydd y cyfarfod nesa yn cael ei gynnal ar yr 21ain o’r mis hwn.MATERION CYNGOR GWYNEDD
Adroddodd y Clerc  yn absenoldeb y Cyng. Freya Bentham ei bod wedi cael gwybod bod y giat mochyn yn mynd i gael ei gosod ger Bont Briwet o’r diwedd, ei bod wedi bod mewn cysylltiad ar Cyng. John Richards a Eifion Williams ag ei bod yn anfon copi o leoliad y llinellau melyn dwbwl sydd yn mynd i gael eu gosod yn Llandecwyn, ei bod wedi anfon at yr Adran Priffyrdd ynglyn a llenwi tyllau yn y maes parcio ag eu bod wedi ei basio ymlan i Gwenan Thomas o’r adran meusydd parcio a bod hi wedi ei basio yn nol i’r tim yn Meirionydd yn gofyn iddynt ei drwsio. ‘Roedd eisiau gwybod a oedd y llinellau melyn i fyny am Soar wedi cael eu ail peintio er iddi gysylltu ar Adran yn dilyn cyfarfod diwethaf y Cyngor a cafwyd wybod bod y gwaith hwn heb gael ei wneud. Wedi derbyn ateb ynglyn ar waliau ar hyd yr A496 ger Ty Cerrig ag yn datgan mae y perchennog tir sydd yn gyfrifol am ail godi y waliau hyn ag eu bod wedi bod mewn cysylltiad a Asiant Arglwydd Harlech (perchennog y tir) yn datgan hyn. Hefyd yn datgan fel Awdurdod Priffyrdd nis oes ganddynt gyfrifoldeb am y waliau ond eu bod yn anfon gweithwyr allan i glerio y cerrig o’r ffordd sydd wedi cael eu reportio iddynt ag yn anfon anfoneb am y gwaith hyn i’r tir feddianwr.CEISIADAU CYNLLUNIO
Trosi eglwys yn dy, codi estyniad a creu lle parcio – Christ Chruch, Talsarnau (NP5/77/328C)
Cefnogi y cais hwn er bod gan yr Aelodau bryder hefo’r mynedfa.Tynnu to fflat, codi to brig yn cynnwys ystafelloedd atig ac ehangu llety preswyl i’r llawr isaf – Y Fflat, Caerffynnon Hall, Talsarnau (NP5/77/31G)
Cefnogi y cais hwn oherwydd fydd y fflat yn edrych yn well hefo to brigADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £16,514.27 yn y cyfrif rhedegol, £4,148.30 yn y cyfrif cadw a £100.00 yng nhgyfrif y Cadeirydd. Ceisiadau am gymorth ariannol
Pwyllgor Neuadd Bentref - £1,500
Ambiwlans Awyr Cymru    -    £200
CFFI Meirionnydd               -      £50GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn ateb gan yr uchod ynglyn a materion a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ag yn datgan bydd y Swyddog Tramwy yn archwilio y gamfa yn Glan y Wern yn fuan ac adroddodd y Clerc ymhellach bod y Swyddog wedi cysylltu a hi a bydd camfa newydd yn cael ei gosod yna maes o law. Bod cais y Cyngor am arwydd sat-nav ger groesffordd Cilfor wedi cael ei anfon i Gaernarfon ac adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn ateb yn datgan bod ddim yn bosib gosod arwyddion ddim sat-nav mwyach oherwydd nad yw wedi ei gynnwys o fewn y rheoliadau arwyddion traffic diweddar ond bod modd gosod arwydd dim cerbydau trymion ar y gyffordd A496 a Cilfor a bydd hyn yn llawn mwy effeithiol yn rhybuddio bod y ffordd ymlaen ddim yn addas i loriau ac adroddodd y Clerc  ymhellach ei bod wedi derbyn yr arwyddion hyn. Bod y ffens o Gapel Soar am Dolorcan ddim yn gyfrifoldeb yr adran hon ag yn awgrymu bod y Cyngor yn cysylltu gyda’r tirfeddianwr ag fe gafwyd wybod mae Coed Cadw yw’r tirfeddianwr ag hefyd eu bod wedi anfon cyfarwyddyd i’r gweithlu i anfon lori i ysgubo’r dail yn yr ardal a chafwyd wybod eto bod lori ysgubo dail wedi bod yn yr ardal ond heb ysgubo’r ffordd o Capel Bach i Soar. Hefyd yn datgan yn anffodus nid oes cyflenwad trydan gyferbyn a’r lloches bws yn Glan y Wern i osod golau ond bod yn bosib gosod lamp solar am gost o tua £1,800 ag hefyd bod opsiwn i symud y lloches bws i ochor Glan y Wern am bod golau yno eisioes. Cytunwyd gosod golau solar yna a gofyn i’r Adran Priffyrdd a fyddant yn fodlon ei osod.Cyngor Gwynedd – Adran Gyfreithiol
Wedi derbyn e-bost ynghyd a map yn datgan rhybudd fydd y ffordd i fyny am Eglwys Llanfihangel y Traethau ar gau o’r 1af o Ebrill nes bydd y gwaith o osod pibellau dwr newydd wedi cael ei gwblhau.Post Brenhinol
Wedi derbyn ateb gan yr uchod yn datgan eu bod wedi cael golwg ar lleoliad y blwch post yn y pentref ag eu bod o’r farn bod y lleoliad presennol yn addas a byddai symud y blwch at yr Ysgol Gynradd yn mynd a fo yn bellach allan o’r pentref. Cytunwyd cysylltu yn nol yn datgan bod y blwch post mewn lle peryg ar hyn o bryd oherwydd bod ddim lle addas i dynnu i mewn hefo car a bod mwyafrif o’r tai ochor arall y ffordd a bod palmant yr ochor hynny a fyddai yn galluogi rhai i gerdded yn ddiogel at y blwch post heb gorfod croesi y ffordd ag hefyd bod y blwch post ar hyn o bryd ar dir preifat.Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod yr Awdurdod wedi cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd ar yr Archwiliad i Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Eryri (2016-2031) ag ei fod ar gael i’w archwilio yn swyddfa’r Parc.Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynghyd a posteri ynglyn a Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE ag yn gwahodd y Cyngor i’r bore agored a fydd yn cael ei gynnal yn y neuadd ar yr 28ain o’r mis hwn rhwng 10.00 a 12.00.UNRHYW FATER  ARALL
Cafwyd wybod bod camfa wedi malu ger ochor Glan y Wern i Camfa Gelyn a cytunwyd cysylltu gyda Mrs Liz Haynes ynglyn ar mater yma.
Cafwyd wybod gan y Cyng. Margaret Roberts bod wal wedi disgyn i ganol y ffordd ger Capel Bach, Llandecwyn yn ystod y tywydd garw a bod hi a’i chymar wedi gallu symud y cerrig i’r ochor a bod y tirfeddianwr erbyn hyn wedi ei godi. Hefyd datganodd y Cyng. Roberts eu bod wedi glanhau y gwteri oedd yn llawn dail.
Cafwyd adroddiad o gyfarfod Un Llais Cymru gan y Cyng. Owen Lloyd Roberts.
Eisiau ysgrifennu at yr Adran Priffyrdd yn gofyn pam bod llygid cathod byth wedi cael eu ail gosod ar y ffordd ger Tregwylan.
Eisiau gofyn i’r Adran Priffyrdd a fyddai yn bosib cael dwy lamp stryd ychwanegol a fyddai yn pointio am y maes parcio newydd ger y maes chaware newydd.
Cytunwyd bod angen arolwg o dai haf yn y gymuned a bod eisiau cael gwybod faint o dai haf sydd yn y gymuned.
Cafwyd wybod bod camfa sydd rhwng Beudy Cil a Llyn Tecwyn Uchaf angen  mesh arni am ei bod yn llithrig.
Eisiau anfon at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofyn lle mae yr ateb i’r llythyr a anfonwyd atynt yn mis Tachwedd y llynedd.
Angen gosod arwydd ger Capel Soar.
Datganwyd pryder bod diffyg cymraeg ar y trenau.
Cafwyd wybod gan y Cadeirydd ei bod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ag ei bod wedi cael gwybod bod y pigyrnau wedi cael eu gosod yna dros dro nes bydd y gwaith o lenwi yr ochrau wedi cael ei gwblhau.