Ionawr 2019

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH 21.1.19YMDDIHEURIADAU
Dim.PRESENNOL
Cyng. Eluned Williams(Cadeirydd), John Richards, Ffion Williams, Eifion Williams, Gwenda Griffith, Owen Lloyd Roberts, Ann Jones,  Dewi Tudur Lewis,  Margaret Roberts, Geraint Williams a’r Cyng. Freya Bentham (Cyngor Gwynedd).Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd ar Cyng. Eifion Williams a’r teulu yn ei brofedigaeth o golli ei frawd yn ddiweddar.DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Tachwedd 19eg 2018 fel rhai cywir.MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2018 ers dechrau Ebrill 2018 a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd mis Rhagfyr i bob aelod oedd yn bresennol.  Adroddwyd bod £11,162.69 wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol  newydd a bod hyn yn £18,465.21 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. ‘Roedd hyn oherwydd bod Cyngor wedi clustnodi £10,000 ar gyfer datblygu maes parcio Cilfor a nid oedd hwn wedi cael ei wario eto, ‘roedd ddim gwariant wedi bod hefo cynnal a chadw y cae chwarae (wedi clustnodi £2,919 hyd yma), ddim wedi rhoi gymaint o gyfryniadau ariannol (wedi clustnodi £1,500 ar gwariant yn £250) ag hefyd ni  fydd y costau o dorri gwair y llwybrau cyhoeddus gymaint a beth oedd wedi ei glustnodi (wedi clustnodi £1,200 ar gwariant yn £862), na’r gost o dorri gwair y mynwentydd (wedi clustnodi £1,800 ar gwariant yn £1,710.50), nid oedd costau eraill y fynwent  gymaint (£1,169 wedi ei glustnodi hyd yma ar gwariant hyd yma wedi bod yn £480.)
Adroddodd y Clerc/Trysorydd bod angen rhoi biniau halen i lawr yn y cynllun o hyn ymlaen am bod y Cyngor wedi cytuno i’r ymrwymiad i gadw y biniau halen gyda Cyngor Gwynedd a chytunwyd clustnodi £1,000 ar gyfer y 10 bin halen sydd yn yr ardal ag hefyd £1,000 fel cyfraniad blynyddol bob mis Mawrth i Gylch Meithrin Talsarnau.Polisi Asesiad Risg Ariannol y Cyngor
Dosbarthwyd copiau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol a gafodd bob eitem a oedd arno ei drafod arwahan. Penderfynwyd mabwysiadu y polisi hwn am y flwyddyn 2019/20. Penderfynwyd mabwysiadu yr un polisi asesiad risg ariannol ag o’r blaen trwy fonitro y taliadau fydd yn cael eu gwneud gan y Cyngor ag hefyd gofyn am ddau bris o leiaf os bydd yn bosib pan yn anfon tenderau allan os yw yr amcan gost yn mynd i fod yn fwy na £1,000. Effeithiolrwydd Rheola Mewnol
Trafodwyd yr uchod yn fanwl eto eleni a penderfynwyd bod y drefn bresennol yn foddhaol lle mae y Trysorydd yn rhoi adroddiad ariannol ynghyd a chopi o gysoni banc y Cyngor i’r Aelodau bob mis ag hefyd yn cofnodi y taliadau ar derbyniadau sydd yn cael eu gwneud ynghyd ar sefyllfa ariannol bob mis.Cyllideb y Cyngor am 2019/20
Dosbarthodd y Trysorydd gopiau o gyfrifon y Cyngor i fyny at y 31ain o Ragfyr 2018 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Fe gafwyd trafodaeth ynlgyn ar mater uchod a penderfynwyd fod amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa - insiwrant y Cyngor £800, cyflog y Clerc £1,700,
costau y Clerc £1,500, costau swyddfa £400, treth ar gyflog y Clerc £340, Cyfrifydd y Clerc £192, cyfraniadau £3,000, pwyllgor neuadd £1,500, Cylch Meithrin Talsarnau £1,000, Hamdden Harlech ac Ardudwy £4,013.10, torri gwair y mynwentydd £1,800, costau y fynwent £2,000, torri gwair y llwybrau £1,200, cynnal a chadw Gardd y Rhiw £300, seddi cyhoeddus £1,000, Un Llais Cymru £100, cynnal a chadw cae chwarae £5000, datblygu maes parcio Cilfor £10,000, amrywiol £1,000, llogi ystafell bwyllgor £150, archwilwyr £650, biniau halen £1,000, cyfrif y Cadeirydd £100.        Precept y Cyngor am y flwyddyn 2019/20
Fe dderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod.  Ar ol trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd cadw y precept ar £20,000. Panel Cyfrifiad Annibynnol
Adroddodd y Clerc bod yn rhaid arwyddo ffurflen gan bob Cynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol taliadau ar gyfer costau eto eleni ac arwyddwyd datganiad gan bob Aelod oedd yn bresennol eu bod ddim an hawlio costau.Maes Parcio Cilfor
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi rhoi cais i mewn i gwmni Magnox am gyllid tuag at datblygu yr uchod ag ei fod yn aros i weld beth fydd y cyfraniad a cytunwyd bod y Cyng. John Richards yn tynnu cynllun newydd allan a bod y Cyngor yn ail ofyn am brisiau tuag at wneud y gwaith. Hefyd trafodwyd y posibilrwydd o ddatblygu maes parcio o dan ystad Trem y Garth os fydd cyllid ar gael gan y Grid Cenedlaethol.Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy
Adroddodd y Cyng.  Owen Lloyd Roberts ei fod wedi mynychu cyfarfod o’r uchod ar nos Iau yr 17eg o Ionawr  a bod y Cyfarwyddwyr presennol wedi datgan bod yn nawr 6 Cyfarwyddwr yn bendant yn aelodau o’r Bwrdd ag hwyrach bydd un arall yn ymuno a hwy. Hefyd cafwyd wybod bydd y Bwrdd yn gwneud datganiad yn dweud yn bendant bydd y pwll ddim yn mynd i gael ei chwalu a bod gwesty yn mynd i gael ei adeiladu ar y safle yn lle fel oedd honiadau wedi cael ei gwneud yn ddiweddar. Hefyd cafwyd wybod eu bod wedi cyflogi un gweithiwr newydd ag eu bod yn mynd i adnewydd y cadwynau ar y wal ddringo.MATERION CYNGOR GWYNEDD
Adroddodd y Cyng. Freya Bentham ei bod wedi cael gwybod bod Ms Liz Haynes o Gyngor Gwynedd yn bwriadu cyfarfod ar porwr yfory i geisio datrys y sefyllfa hefo gosod giat hunan gaiedig ar y llwybr cyhoeddus ger Bont Briwet, datganwyd siom bod rhai o’r Cyngor Cymuned ddim wedi cael gwahoddiad i’r cyfarfod hwn. Cafwyd wybod bod Cyngor Gwynedd ddim yn fodlon rhoi  llinellau melyn dwbwl ar y rhiw sydd yn mynd am Soar oherwydd eu bod o’r farn bod y ffordd ddigon llydan, datganwyd siom yn hyn a gofynnwyd i’r Cyng. Bentham fynd yn nol atynt a datgan bod ceir yn parcio ar y ddwy ochor a bod y gwasanaethau brys yn cael trafferth i fynd i fyny y ffordd a gofyn iddynt ail osod y llinellau melyn oherwydd bod rhai wedi bod yna yn y gorffennol. Cafwyd wybod bydd arolwg cyflymder yn cael ei gario allan yn Llandecwyn ag hefyd bod Cyngor Gwynedd yn nawr yn datgan bod y maes parcio ger Capel Soar heb gael ei fabwysiadu ganddynt er ei fod yn berchen iddynt. Gofynnwyd i’r Cyng. Bentham gysylltu gyda hwy eto a datgan bod yn rhaid gweithredu ar y llecyn hwn ar fater o frys oherwydd bod y sawl sydd wedi prynnu y pedwar ty gyferbyn ar llecyn hwn yn ei hawlio.CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £17,673,97 yn y cyfrif rhedegol, £4,146.26 yn y cyfrif cadw a £100.00 yng nhgyfrif y Cadeirydd. Ceisiadau am gymorth ariannol
Cylch Meithrin Talsarnau - £1,000Adroddodd y Trysorydd bod y Cyngor wedi dan wario £18,465.21 ers cychwyn y flwyddyn ariannol hon hyd at y 31ain o Ragfyr 2018 ag er bod hyn yn edrych yn swm sylweddol iawn, ‘roedd yn rhagweld byddai £17,950.53 yn cael ei gario drosodd ar y 31ain o Fawrth 2019 a bod hyn yn swm sylweddol ei gario drosodd (gweler adroddiad y cynllun cyllideb). Rhaid cofio hefyd bydd o leiaf £4,444.70 o wariant angen ei wneud erbyn diwedd Mawrth 2019 a ddim ond £75.00 o daliad am rhent garej Capel y Graig a costau claddu o £930.00 oedd i ddod i mewn (ar hyn o byrd) ag byddai gan y Cyngor wariant sylweddol i’w wneud yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf 2019/20 oherwydd bod £4,013.10 wedi cael ei glustnodi ar gyfer Hamdden Harlech ac Ardudwy heb gynnwys ddim gwariant arall fyddai y Cyngor yn ei wneud. Felly wrth gofio y byddai  hwyrach £18,480.53 yn cael ei gario drosodd a bod y precept yn aros ar £20,000 (£18,480.53 + £20,000 = £38,480.53) bydd y Cyngor yn iawn gyda’i gwariant am y flwyddyn ariannol 2019/20.  Bydd yr Aelodau yn gallu gweld y rhagolygon ariannol am y flwyddyn i ddod yn well diwedd Mawrth 2019.Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni ag ei bod wedi cytno i hyn. Cytunodd yr Aelodau i hyn ag hefyd cytunwyd bod y Clerc yn anfon llythyr o apwyntiad iddi.GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynghyd a map yn dangos y lleoliadau y maen’t yn bwriadau gosod llinellau melyn dwbwl yn yr ardal ag yn gofyn a oes gan y Cyngor unrhyw sylwadau ar hyn. Cytynwyd bod angen ymestyn y llinellau melyn maen’t yn bwriadu eu rhoi gyferbyn ag ystad dai Cilfor yr holl ffordd i fyny am ystad Bryn Eithin ar yr ochor chwith i’r ffordd a gwneud i ffwrdd hefo yr rhai maen’t yn eu bwriadu eu gosod ar yr ochor dde o groesffordd ystad dai Cilfor ar i fyny. ‘Roedd dim gwrthwynebiad ynglyn ar rhai yr oeddynt yn ei fwriadu gosod lawr ffordd stestion.Llywodraeth Cymru
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor mae y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2019/20 fydd £8.12 yr etholwr.  Adroddodd y Clerc y rhif o diweddaraf o etholwyr sydd genni yw 428 ag felly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £3,475.60 i gyrff allanol.Mr Gwynne Pierce
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ar ran pwyllgor Taith Ardudwy yn datgan bod ganddynt fap yn rhoi gwybodaeth am y daith o Landecwyn - un tebyg i'r un sydd ar y sgwar yn Llanbedr. Hoffem pe baech yn gallu cynnig syniadau i ni am
le addas i leoli'r map er mwyn cyfeirio cerddwyr etc. i fan cychwyn y daith. Gofynnwyd i’r Clerc ymateb trwy ddatgan er bod y Cyngor yn cefnogi  bod angen map o’r fath yn Llandecwyn, yn anffodus ar hyn o bryd nid oes lleoliad digon addas iddo oherwydd bod y sefyllfa parcio yn un dyrus iawn yna a bod y Cyngor yn y dyfodol yn gobeithio creu maes parcio ag hwyrach byddai y map yn gallu cael ei leoli yno.Cyngor Gwynedd – Adran Trysorydd
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynghyd a linc ynglyn a llenwi holiadur parthed Arolwg Strategaeth Ariannol y Cyngor. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bawb oedd gan gyfeiriad e-bost ag ei bod wedi darparu copi papur i rhai oedd heb cyfeiriad e-bost. Dywedodd y Clerc bod yr holiadur hwn i fod i gael ei gwblhau erbyn y 31ain o’r mis hwn.Cyngor Gwynedd – Adran Trafnidiaeth
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynghyd a linc ynglyn a llenwi holiadur parthed Adolygu Cludiant Cyhoeddus y Cyngor. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bawb oedd gan gyfeiriad e-bost ag ei bod wedi darparu copi papur i rhai oedd heb cyfeiriad e-bost. Dywedodd y Clerc bod yr holiadur hwn i fod i gael ei gwblhau erbyn y30ain o Ebrill.Cylch Meithrin Talsarnau
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynghyd a chopi o’r fantolen ariannol yn gofyn am gyfraniad ariannol gan y Cyngor oherwydd bod eu sefyllfa ariannol yn fregus iawn. Cytunwyd i gyfranu £1,000 i Gylch Meithrin Talsarnau yn nawr a gadael iddynt wybod bydd y Cyngor yn cyfranu £1,000 iddynt yn flynyddol bob mis Mawrth o hyn ymlaen oni bai eu bod mewn argyfwng ariannol ag angen cymroth yn gynt. Hefyd eisiau datgan bydd rhaid i’r Cyngor gael llythyr cais ganddynt bob blwyddyn cyn trosglwyddo yr arian iddynt.UNRHYW FATER  ARALL
Cafwyd wybod bod y gamfa sydd ger y lloches bws yn Glan y Wern yn rhy uchel i rhai fynd drosti a cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r Adran Briffyrdd ynglyn a hyn.
Eisiau edrych ar waredu y domen gwair sydd wedi cael eu creu yn y maes parcio newydd ag hefyd y posibilrwydd o osod golau yna. Cytunodd y Cyng. Dewi Tudur Lewis a Geraint Williams gyfarfod ar y safle.
Angen arwydd bod “sat nav” ddim yn gweithio wedi ei osod ar waelod y ffordd sydd yn arwain i fyny am ystad Bryn Eithin.
Angen rhif ffon argyfwng wedi ei osod ar y goleuadau sydd ar Ffordd Barcdy a cytunodd y Cyng. Freya Bentham ddelio gyda’r mater yma.
Cafwyd wybod bod y ffens sydd yn mynd ar hyd ochor y ffordd i lawr o Gapel Soar am Dolorcan wedi malu am ei bod wedi cael ei llosgi yn ystod y tywydd sych ag oherwydd hyn bod y dail yn nawr i gyd yn dod i’r ffordd ag yn gwneud y ffordd yn beryg iawn. Cytunwyd cysylltu gyda’r Adran Briffyrdd a gofyn iddynt wneud rhywbeth am y sefyllfa fel mater brys ag hefyd eisiau gofyn pam fod y lori ysgubo dail ddim yn mynd ddim pellach na Garth Byr.
Cafwyd wybod bod dwr yn dal i groni yn yr hen faes parcio lawr ffordd stesion a cytunodd y Cyng. Margaret Roberts gysylltu ymhellach gyda’r Cyng. Freya Bentham ynglyn ar mater yma.
Cafwyd wybod bod angen sylw i’r ffordd ger Ty Cerrig a cytunodd y Cyng. Freya Bentham ddelio gyda’r mater yma.
Cafwyd wybod bod y broblem o faw cwn lawr ffordd y stesion.
Gofynnwyd a fyddai yn bosib gosod golau gyferbyn ar lloches bws yn Glan y Wern oherwydd am bod plant yn aros i ddal y bws ysgol ar yr ochor hon ei bod yn sefyllfa beryg ar y gornel hon yn enwedig yn ystod y gaeaf.
Cafwyd wybod bod cwyn wedi ei dderbyn bod dwr yn croni ger y blwch post sydd wedi ei leoli ger y Motel a cytunwyd gofyn a fyddai modd symud y blwch post hwn at ymyl yr ysgol gynradd.