Ionawr 2017

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH 16.01.17

Yn absenoldeb y Cadeirydd cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd

DATGAN DIDDORDEB
Nid oedd neb yn datgan diddordeb ar unrhyw fater.

COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Tachwedd 21ain fel rhai cywir.

MATERION YN CODI
Maes Parcio Cilfor
Adroddodd y Cyng. John Richards bod ef gyda cymorth y Cyng. Eifion Williams wedi tynnu allan cynllun o’r uchod er mwyn cael manyleb o’r hyn oedd ei angen.  Cytunwyd cyn i’r Clerc anfon at Contractwyr penodedig yn gofyn am bris i wneud y gwaith i anfon copi o’r manyleb hwn at Mr. Dafydd Gibbard, Cyngor Gwynedd er mwyn sicrhau ei fod yn dderbyniol. Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyng. John Richards ag Eifion Williams am eu gwaith caled gyda’r mater yma.

Giat Porth Eglwys Llandecwyn
Cafwyd wybod gan y Cyng. Eifion Williams ei fod wedi darganfod bod yr uchod wedi ei thrwsio yn 1982 am gost o £200 ag hefyd cafwyd wybod bod yr Eglwys yng Nghymru wedi gofyn i Rock Engineering, Porthmadog gael golwg ar y safle a rhoi pris ar y gwaith sydd ei angen wneud. Adroddodd y Cyng. Caerwyn Roberts ei fod wedi cael gwybod gan y Parc Cenedlaethol bod y Giat Porth dan sylw wedi ei chofrestru.

Cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi mynychu y cyfarfod gyda’r uchod ar yr 8ed o Ragfyr ag hefyd un ar y 12ed o’r mis hwn. Cafwyd wybod bod y ganolfan yn brin o arian a datganwyd ni fydd cyfraniad y Cyngor yn mynd allan tan mis Mai ar ol i’r precept ddod i mewn. Datganwyd bod y Rheolwyr yn bwriadau cychwyn cynllun nofio am ddim i deuluoedd yn yr Hydref a cynnal diwrnod i’r gymuned yn mis Mawrth. Hefyd cafwyd wybod bod yr arwyddion ar holl ddeunydd hysbysu yn nawr yn mynd i fod yn ddwyieithog. Cytunodd y Cyng. Owen Lloyd Roberts fynychu y cyfarfod nesa.

Polisi Asesiad Risc y Cyngor
Dosbarthwyd copiau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol ag ar ol trafodaeth penderfynwyd mabwysiadu y polisi risg am y flwyddyn 2017/18. Penderfynwyd mabwysiadu yr un polisi asesiad risg ariannol ag o’r blaen trwy fonitro y taliadau fydd yn cael eu gwneud gan y Cyngor ag hefyd gofyn am ddau bris o leiaf os bydd yn bosib pan yn anfon tenderau allan os yw yr amcan gost yn mynd i fod yn fwy na £1,000.

Effeithiolrwydd Rheola Mewnol
Trafodwyd yr uchod yn fanwl eto eleni a penderfynwyd bod y drefn bresennol yn foddhaol lle may y Trysorydd yn rhoi adroddiad ariannol ynghyd a chopi o gysoni banc y Cyngor i’r Aelodau bob mis ag hefyd yn cofnodi y taliadau ar derbyniadau sydd yn cael eu gwneud ynghyd ar sefyllfa ariannol bob mis.

Panel Cyfrifiad Annibynnol
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod yn ddiweddar bod yn ofyn statudol ar y Cyngor i gyhoeddi ac adrodd yn flynyddol i Banel Annibynnol Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau a dalwyd i Gynghorwyr erbyn y 30ain o Fedi bob blwyddyn. Mae y rheolau hyn angen eu mabwysiadu a mae yr hawl gan y Cyngor i beidio eu mabwysiadu ag os gwneir hynny ni fydd hawl gan yr aelodau i hawlio unrhyw lwfans, mae yr hawl gan yr aelodau i fabwysiadu rhai o’r rheolau yn unig neu mabwysiadu yr holl reolau. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i beidio a mabwysiadau ddim o’r rheolau hyn.

Cynllun Cyllideb
Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2016 ers dechrau Ebrill 2016 a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb i bob aelod oedd yn bresennol.  Aeth yr aelodau drwy y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar y cynllun busnes fesul un. Penderfynwyd derbyn y cynllun cyllideb hwn a ychwanegu gwariant mynwentydd  o £2,000 ynddo.
 
Cyllideb y Cyngor am 2017/18
Dosbarthodd y Trysorydd gopiau o gyfrifon y Cyngor i fyny at y 31ain o Ragfyr 2016 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Fe gafwyd trafodaeth ynlgyn ar mater uchod a penderfynwyd fod amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa - insiwrant y Cyngor £800, cyflog y Clerc £1,700, costau y Clerc £1,000, costau swyddfa £400 , treth ar gyflog y Clerc £380, Cyfrifydd y Clerc £180, cyfraniadau £3,000, pwyllgor Neuadd Bentref £1,500, Hamdden Harlech ac Ardudwy £7,544, torri gwair y mynwentydd  £1,500, gwariant mynwentydd £2,000, torri gwair y llwybrau £1,200, cynnal a chadw Gardd y Rhiw £150, gwariant y mynwentydd £1,000, seddi cyhoeddus £1,000, Un Llais Cymru £100, amrywiol £1,000, llogi ystafell  £150, Cadeirydd £100, archwilwyr £300.

Precept y Cyngor am y flwyddyn 2017/18
Fe dderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod.  Ar ol trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, ag hefyd yn nawr am bod y Cyngor wedi cytuno rhoi swm sylweddol o arian i Hamdden Harlech ac Ardudwy er mwyn galluogi i gadw y safle yn agored ag hefyd y ffaith bod y Cyngor ddim wedi codi ddim ar y precept ers 2010, penderfynwyd codi £5,000 ar y precept a’i chynyddu o £10,000 i £15,000.

CEISIADAU CYNLLUNIO
Cynllun Cynhyrchu Trydan o’r Nwyon Tirlenwi - Safle Tirlenwi Ffridd Rasus, Harlech (NP5/61/70L
Cefnogi y cais hwn.

Cais ol weithredol i gadw 9 pwynt cyswllt trydan - Parc Carafanau a Champio Barcdy, Talsarnau (NP5/77/4L)
Cefnogi y cais hwn.

Adeiladu estyniad ffrynt, cynyddu uchder estyniad cefn presennol a gosod ffenestri to - Minafon Bach, Ynys, Talsarnau (NP5/77/T281A)
Cefnogi y cais hwn

GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd - Adran Priffyrdd
Wedi derbyn ateb gan yr uchod ynglyn a materion a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ag yn datgan eu bod yn trefnu rhagled waith ar gyfer ail-osod ac hefyd adnewyddu stydiau ffordd (llygid cathod) a gobeithio bydd y gwaith hwn yn cymeryd lle yn y flwyddyn newydd, hefyd yn datgan y rheswm for yr arwyddion rhybudd yn dal i fyny yw oherwydd bod agweddau o’r gwaith yn dal heb eu cwblhau ag eu bod yn trefnu bod dynion yn mynd o amgylch y safleoedd cyn y gwyliau er mwyn sicrhau fod yr arwyddion mewn cyflwr da ac yn weledol, hefyd eu bwriad oedd y byddai’r gwaith o ail osod y llinellau gwyn wedi ei orffen cyn y gwyliau ond yn anffodus ‘roedd factorau allan o’i dwylo yn golygu nad oedd hyn yn bosib a maen’t yn gobeithio cwblhau’r gwaith cyn gynted a phosib yn y flwyddyn newydd os bydd y tywydd yn caniatau.

Cyngor  Cymuned Llanbedr
Wedi derbyn llythyr gan y Cyngor uchod ynglyn ar datblygiad o wella y mynediad i’r maes awyr ynghyd a chopi o gylchlythyr yn datgan beth oedd y diweddaraf ynglyn ar cynllun hwn ag yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor gyda cynllun y mynediad newydd arfaethedig. Cytunwyd cefnogi y cynllun hwn ag anfon llythyr yn datgan hyn at Gyngor Gwynedd.


Cyfeillion Ellis Wynne
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael e-bost gan Gerallt Rhun ar ran yr uchod yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor i helpu cais Cyfeillion Ellis Wynne ac Wyn Bowen Harries i Gyngor Celfyddydau am grant i lwyfannu perfformiadau yn y Lasynys dan y teitl "Tanau'r Lasynys". Cafwyd ychydig o gefndir ynglyn ar mater yma gan Gerallt Rhun - Mae'r prosiect hwn yn ymwneud a rhyw ddigwyddiad hynod a fu yn ystod  oes Ellis Wynne ac Edward Llwyd sef tanau rhyfedd a fu ar Forfa Harlech an rai wythnosau. Fflamau glas a rheiny ddim yn llosgi pethau’n ulw.  Roedd dadlau mawr ar y pryd am beth oedd yn eu hachosi. Roedd syniadau Beiblaidd yn cymharu “y berth yn llosgi “ ac ddim yn ei difa. Arwydd gan Dduw meddai llawer, ac eraill yn chwilio am esboniadau gwyddonol. Mae gan Wyn Bowen Harris yr actor gwmni drama sy’n cyflwyno digwyddiadau hanesyddol fel hyn, ac mae sgript wedi ei llunio i ddisgrifio’r holl hanes cyffrous yma. Y bwriad yw cyflwyno’r holl beth yn y Lasynys   ei hun dan y teitl Tanau’r Lasynys. Defnyddio stafelloedd y ty i arwain cynulleidfa o tua 25 ar y tro o stafell i stafell gyda golygfeydd gwahanol ym mhob un. I wireddu’r cynllun mae angen nawdd gan y Cyngor Celfyddydau ac wrth wneud y cais mae angen profi fod diddordeb mawr i’r cynllun yn lleol a bod mudiadau yn barod i’w gefnogi pan ddaw. Bod cynulleidfa barod ar gyfer y perfformiadau am wn i. Gwrthodwyd y cais yn y rownd ddiwethaf oherwydd yn un peth nad oedd digon o dystiolaeth fod y Gymuned yn debyg o'i gefnogi . Cytunwyd anfon llythyr o gefnogaeth.

UNRHYW FATER ARALL
Eisiau ysgrifennu at Mrs Liz Haynes i dynnu ei sylw bod ffram y giat mochyn heibion ystad Bryn Eithin wedi pydru.
Eisiau gofyn a fyddai posib gosod giat mochyn wrth y giat fawr ger Bont Briwet.