Braf iawn dros gyfnod Cwpan Rygbi'r Byd oedd gweld Draig Goch Yr Ynys yn dangos ei chefnogaeth i dim Cymru. Mae rhai hyd yn oed yn awgrymu mai dyna pam y gwnaeth y tim mor dda! Roedd y syniad yn un ardderchog a diolch cynnes i Ian Rayner.
Llongyfarchiadau cynnes iawn i Corinna Gittins sydd bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth ond sydd yn wreiddiol o Ffridd Fedw, Talsarnau.
Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Talsarnau ac Ysgol Ardudwy.
Yn ystod yr haf hwn mae wedi derbyn gradd M.A. o Brifysgol Bangor mewn Troseddeg Gymharol a Chyfiawnder Troseddol. Rydym ni yn ymhyfrydu yn llwyddiant Corinna ac yn ei llongyfarch yn fawr ar ei champ ac yn dymuno'n dda iddi i'r dyfodol.
I ddathlu canmlwyddiant geni T Llew Jones gwisgodd disgyblion Ysgol Talsarnau fel cymeriadau o lyfrau'r awdur. Yr enillwyr oedd Ellis Williams, Sioned Evans, Guto Morrus Annwyl a Ceri Ann Williams.
Llongyfarchiadau ichi blant a gobeithio eich bod chi'n cael blas ar y storiau.
Llongyfarchiadau cynnes iawn i Mrs Frances Griffiths, Bryn Mor, Talsarnau ar ddathlu ei phenblwydd yn 80 oed.
Os oes eraill o fewn yr ardal yn dathlu mewn unrhyw ffordd, rhowch wybod inni
Llongyfarchiadau cynnes iawn i Dylan Aubrey yn ennill Tlws Coffa Sian Morgan Ty Cerrig am y stondin orau yn Sioe Sir, Meirionnydd a gynhaliwyd eleni ar gaeau Ty Cerrig, Ynys, Talsarnau.
Braf iawn oedd gweld i'r Sioe lwyddo, llawer iawn o bobl wedi ymweld a'r tywydd yn heulog braf. Pawb mewn hwyliau da ac wedi mwynhau. Llongyfarchiadau hefyd i Ellis Wynne Lloyd, Moel Glo ar fod yn Llywydd y Sioe eleni.
Sioe Sir Meirionnydd
Meirionnydd County Show
Ty Cerrig
Talsarnau
Dydd Mercher Awst 26ain 2015
Wednesday 26th August 2015
Croeso Cynnes Un ac Oll - Warm Welcome to All
Agoriad Swyddogol Pont Briwet
Ar ddydd Llun gwlyb a gwyntog, y 13eg Gorffennaf 2015 fe agorwyd Pont Briwet Newydd yn swyddogol. Gwnaed y weithred ar y cyd gan ddisgyblion o Ysgol Talsarnau ac Ysgol Cefn Coch, Penrhyn. Bu hir ddisgwyl am y digwyddiad hwn ac mae i'r ddwy ysgol ddod at ei gilydd i dorri'r rhuban yn symbol o ail agor y cysylltiad agos sydd yn bodoli rhwng y ddwy ardal.
2 lun drwy ganiatad Gwilym Phillips
Gallwn yn awr edrych ymlaen yn hyderus gan fawr obeithio y bydd y bont hon yn gyfrwng i sefydlogi economi'r ardal ac y byddwn eto yn gweld busnesau lleol a gwahanol sefydliadau a chymdeithasau yn ffynnu yn llwyddiannus.
Corau ar y Cyd - Cor o Estonia a Chor Cana Mi Gei
Trefnwyd noson yn Neuadd Talsarnau nos Iau 25ain Mehefin 2015 ble daeth Cor Merched o Estonia ar ymweliad a'r ardal i rannu rhaglen a Chor Merched Cana Mi Gei - cor lleol sydd yn prysur wneud enw iddynt eu hunain. Phil Mostert oedd yn arwain y noson yn ei ffordd ddyheuig ei hun gan gyflwyno mewn mwy na dwy iaith. Treuliwyd noswaith hynod o ddifyr a'r ddau gor ar eu gorau. Roedd cyferbyniad amlwg yng ngwisgoedd y merched - Cor Estonia mewn gwisgoedd lliw golau a Chor Cana Mi Gei yn eu du trawiadol. Er mor wahanol y gwisgoedd roedd y mwynhad a roddodd y ddau gor i'r gynulleidfa yn ddi-wahan.
Yn y dyddiau helbulus sydd ohoni, braf yw gweld cerddoriaeth a chyd-ganu yn dod a phobl mwy nag un wlad at ei gilydd mewn cyfeillgarwch. Hir y pery'r cysylltiadau heddychlon hyn rhwng pobl a'i gilydd
Diolch i bawb fu'n ymwneud a'r trefnu