Tybed oes rhywun o ardal Talsarnau neu unrhyw un sy'n digwydd taro ar y dudalen hon yn adnabod y rhai sydd yn y llun isod?
O'r chwith, Freda Bowyer, Meira Davies cyn priodi - Meira Evans heddiw, a'r nesaf (trydydd o'r chwith) o Dalsarnau. Dyddiad y llun 1951-52 - Y Lleoliad - Coleg F. L. Calder, Lerpwl. Tybed oes na dditectifs yn yr ardal all roi enw i'r trydydd -a'r pedwerydd, os yn bosib.
Talwrn y Beirdd
Recordiwyd dwy raglen yn Neuadd Gymuned Talsarnau nos Fawrth 9fed Mehefin 2015 am 7 o'r gloch. Roedd 4 tim yn cystadlu yn rownd yr wyth olaf - Hiraethog (Ardal Dinbych) yn erbyn Bro Alaw (Sir Fon) a Chaernarfon yn erbyn y Tir Mawr (Pen Llyn). Y Prifardd Ceri Wyn Jones oedd y meuryn a Dwynwen yn cadw'r sgor a chadw trefn.
Cafwyd gornestau arbennig, cystadlu brwd a chafwyd enghreifftiau o'r llon a'r lleddf ynghyd a digon o hiwmor a hwyl gan y meuryn o'i gadair. Bydd y rhaglenni i'w clywed Sul nesaf ac yn cael eu hail ddarlledu ar y dydd Mawrth canlynol, gyda'r ail ornest yr wythnos ganlynol.
Daeth cynulleidfa dda ynghyd a phawb wedi cael llawer o bleser a mwynhad. Bu aelodau'r timau a'r meuryn a Dwynwen yn mwynhau tamaid i'w fwyta cyn troi am adref. Diolch i bawb gyfrannodd at y noson mewn unrhyw ffordd.
Croeso Cynnes i'r Talwrn
Neuadd Gymuned
Gyrfa Chwist
nos Iau, Mai 14eg am 7.30
Dewch yn llu i fwynhau noson
hwyliog a phaned.
Canu Carolau'r Haf
gyda
Mair Tomos Ifans
yn
Eglwys Llandecwyn
Bore Llun Mai'r 4ydd 2015
am
10.00 y bore
Brecwast hwyr i ddilyn yn Neuadd Gymuned Talsarnau
Ar hyd y Clawdd Llanw wedyn i Eglwys Llanfihangel
ac ymlaen i'r Lasynys Fawr
Diwrnod i'w gofio. Croeso Cynnes
CINIO GWYL DDEWI MERCHED Y WAWR TALSARNAU YNG NGWESTY'R LLONG TALSARNAU
Y gwr gwadd - Raymond Owen gyda Siriol Lewis
Trefnwyd bod aelodau Cangen Talsarnau yn dathlu Gwyl Ddewi eleni drwy gael cinio canol dydd yng Ngwesty'r Llong, Talsarnau dydd Iau, 5 Mawrth ac yn gwahodd Raymond Owen o Dalybont i roi sgwrs ar ôl y cinio.
Croesawodd y Llywydd, Siriol Lewis bawb i'r achlysur; derbyniwyd ymddiheuriad gan dair aelod - Bet, Dorothy a Maureen. Roedd rhai materion i'w trafod cyn y cinio ac roedd yr aelodau wedi dod hanner awr ynghynt i'r perwyl yma.
Wedi gorffen trafod, roedd y bwyd yn barod a Raymond Owen wedi cyrraedd ac roedd pawb yn eistedd wrth y bwrdd yn barod am y wledd. Wedi cyd-adrodd y fendith, dechreuwyd fwyta a chafwyd cinio ardderchog a bu sgwrsio hamddenol wrth y bwrdd, gyda phawb yn canmol y bwyd.
Aelodau Merched y Wawr Talsarnau yn mwynhau
Wedi'r gwledda, roedd yn amser i Raymond Owen, yn wreiddiol o Sir Benfro, gyflwyno ei sgwrs o dan y teitl 'Swn a Swyn Sir Benfro' a phleser o'r mwyaf oedd gwrando arno'n son am dafodiaith a geirfa'r sir a'i hiwmor, daeth â Dewi Sant i mewn i'w sgwrs yn naturiol, a chyflwynodd dipyn o'i gefndir ef ei hun, ei fagwraeth a'r pethau ddylanwadodd arno pan yn ifanc. Daeth i'r Gogledd i fyw pan gafodd swydd fel darlithydd yng Ngholeg Meirionnydd yn 1976, gan orffen ei yrfa ym myd addysg fel Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion/Dwyfor. Roedd ei sgwrs yn ddidddorol a phleser mawr oedd gwrando arno'n son am ei fywyd cynnar yn Sir Benfro a'i yrfa wedi hynny. Diolchodd Margaret iddo, ar ein rhan ni i gyd, am ei sgwrs ddifyr ac am gyflwyno ychydig o wybodaeth i ni am ran o Gymru nad oedd yn gyfarwydd iawn i rai o'r aelodau.
Diolchwyd hefyd i staff y gwesty am y cinio ardderchog a baratowyd ar ein cyfer yn ôl yr arfer yn y gwesty yma.
Tynnwyd y raffl a bu saith aelod yn lwcus o ennill gwobr. Rhoddwyd gopi o rhifyn Gwanwyn Y Wawr i bawb cyn mynd adref.
Dyma lun diddorol o'r gorffennol - o'r 50au mae'n debyg - tybed pwy a faint ydych chi'n eu hadnabod.
Dyma help ichi gychwyn - Mr Bennet Williams ydy'r gwr ar y dde!
Braf iawn gweld Dylan yn ôl wrth ei waith ar ôl y ddamwain gafodd o ym mis Medi – anffawd pur gas i’w law. Fe wyddom fod Dylan o ddydd i ddydd yn ei waith yn gorfod trin peiriannau, a nifer ohonynt yn rhai peryglus, fel gall peiriannau fod. Ac yntau wedi dychwelyd i weithio ym mis Tachwedd roedd Dylan yn cydnabod pa mor bwysig ydy gofal wrth drin peiriannau a’r angen i wisgo dillad addas wrth drin peiriannau, megis lli gadwyn.
Gweithio mewn gerddi pobl mae Dylan, fel gwyr y rhai sy’n ei adnabod – yn torri lawntiau, clirio drain a mieri, tocio a thorri coed, a torri a thacluso gwrychoedd. Mae pobl o fewn yr ardal a thu hwnt yn wir, yn gwybod yn dda amdano. Elfen o’i waith sydd wedi datblygu’n ddiweddar yw cerflunio coed gan ddefnyddio llifiau cadwyn ac o bryd i’w gilydd gellir gweld arddangosfa o’i waith ar ochr y ffordd yng Nglan y Wern, Talsarnau. Yno gellir gweld amrywiaeth o dylluanod, cymeriadau hynafol, coed Nadolig, goleudy gyda grisiau’n arwain dros greigiau a llu o bethau diddorol eraill.
Braf cael dweud fod Dylan yn ôl wrth ei waith a’n bod ni o fewn yr ardal yn dymuno’n dda iddo i’r dyfodol.